4. Calon gyndyn ynof ni bydd,drwg weithydd ni ’dnabyddaf.
5. Sclandrwr dirgel, a’r balch uchelo’r achos ni oddefaf.
6. Ar ffyddloniaid mae ’ngolwg i,fe lyn y rhei’ni wrthy’:
7. A’r hwn a rodio mewn ffordd dda,hwn a wasnaetha ymmy.
8. Ni chaiff aros o fewn fy nhy,un dyn ac sy dwyllodrus,Yn fy ngolwg un dyn ni bydd,a lunio gelwydd trefnus.
9. Holl annuwiolion fy ngwlâd faith,yn forau ymaith torraf:Fel da ddelont i ddinas Dduw,y cyfryw a ddiwreiddiaf.