Hen Destament

Salm 101:1-9 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Datcanaf drugaredd a barn,i’r Arglwydd cadarn canaf.

2. Byddaf ddeallus mewn ffordd wych,hyd oni ddelych attaf.A rhodiaf yn fy nhy yn rhwydd,a thrwy berffeithrwydd calon.

3. Pob peth drwg sydd gennif yn gâs,a childyn ddyrras ddynion.

4. Calon gyndyn ynof ni bydd,drwg weithydd ni ’dnabyddaf.

5. Sclandrwr dirgel, a’r balch uchelo’r achos ni oddefaf.

6. Ar ffyddloniaid mae ’ngolwg i,fe lyn y rhei’ni wrthy’:

7. A’r hwn a rodio mewn ffordd dda,hwn a wasnaetha ymmy.

8. Ni chaiff aros o fewn fy nhy,un dyn ac sy dwyllodrus,Yn fy ngolwg un dyn ni bydd,a lunio gelwydd trefnus.

9. Holl annuwiolion fy ngwlâd faith,yn forau ymaith torraf:Fel da ddelont i ddinas Dduw,y cyfryw a ddiwreiddiaf.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 101