Hen Destament

Salm 10:2-11 Salmau Cân 1621 (SC)

2. Y drygrai sydd yn blino’r tlawd,gan drallawd, a chan falchder:Yn y dichellion a wnai’ rhai’n,hwynt hwy eu hunain dalier.

3. Hoff gan ddyn drwg ei chwant ei hun,pawb yn gytun â’i bechod:Bendithio mael ydyw eu swydd,a’r Arglwydd maent iw wrthod.

4. Yr annuwiol ni chais Dduw ner,(mae ef iw falchder cyfuwch:)Ni chred ef, ac ni feddwl fod,un fâth awdurdod goruwch.

5. Am fod ei ffyrdd mewn lwyddiant hir,ni wyl mo’th wir gyfammod:Bydd dordyn wrth elynion mân,fel chwythu tân mewn sorod.

6. Fe ddwedodd hyn â’i feddwl syth,ni ddigwydd byth i’m adfyd:Ni’m symudir o oes i oes,ni chaf na gloes, na drygfyd.

7. Yn ddichellgar, yn dwyllgar iawn,a’i safn yn llawn melldithion:Tan ei dafod y mae camwedd,a thraws enwiredd creulon.

8. Mewn cilfechydd y disgwyl fani lâdd y truan gwirion:Ac ar y tlawd â llygad llymyn dangos grym ei galon.

9. Fe orwedd fel y llew iw ffau,i fwrw ei faglau trowsion:y gwan a’r tlawd a dynn iw rwyd,ac yno y daliwyd gwirion.

10. Fe duchan, fe a ’mgrymma ei hun,fel un ar farw o wendid,Ac ef yn grym â fel yn wael,ar wan i gael ei ergyd.

11. Yn ei galon, dwedodd am Dduw,nad ydyw yn gofiadur:Cuddiodd ei wyneb, ac ni welpa beth a wnel creadur.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 10