Hen Destament

Salm 10:12-18 Salmau Cân 1621 (SC)

12. Cyfod Arglwydd, dercha dy law,dy fod i’n cofiaw dangos:Ac nag anghofia, pan fo rhaid,dy weiniaid a’th werinos.

13. Paham y cablant hwy wir Dduw,yr enwir annuw lledffrom?Pam’ y meddyliant arnat tinad ymofynni am danom?

14. Gwelaist hyn:cans canfyddi drais,a chospi falais anfad:Tydi yw gobaith tlawd, a’i borth,a chymorth yr ymddifad.

15. Tor ymaith yr annuwiol rymyn gyflym, a’r maleisus,Cais allan eu hanwiredd hwy,ni chai di mwy’n ddrygionus.

16. Yr Arglwydd sydd yn frenin byth,ef yw’r gwehelyth lywydd:Distrywiwyd pob cenhedlaeth grefo’i dir ef, yn dragywydd.

17. Duw, gweddi’r gwan a glywaist di,ac a gysuri’r galon:Tro eilwaith attom’ y glust dau,a chlyw weddiau ffyddlon.

18. Tros yr ymddifaid y rhoi farn,a’r gwan fydd cadarn bellach:Megis nas gall daiarol ddynmo’r pwyso arnyn mwyach.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 10