Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

Titus 2 beibl.net 2015 (BNET)

Beth i'w ddysgu

1. Felly, gwna'n siŵr dy fod ti'n dysgu pobl sut i fyw bywydau sy'n gyson â dysgeidiaeth gywir.

2. Dysga'r dynion mewn oed i ymddwyn yn gyfrifol. Dysga nhw i fyw mewn ffordd sy'n ennyn parch pobl, ac i fod yn bwyllog. Dylen nhw fod yn hollol ffyddlon, yn llawn cariad ac yn dal ati trwy bopeth.

3. Dysga'r gwragedd hŷn yr un fath i fyw fel y dylai rhywun sy'n gwasanaethu'r Arglwydd fyw. Dylen nhw beidio hel clecs maleisus, a pheidio yfed gormod. Yn lle hynny dylen nhw ddysgu eraill beth sy'n dda,

4. a bod yn esiampl i'r gwragedd iau o sut i garu eu gwŷr a'u plant.

5. Dylen nhw fod yn gyfrifol, cadw eu hunain yn bur, gofalu am eu cartrefi, bod yn garedig, a bod yn atebol i'w gwŷr. Os gwnân nhw hynny, fydd neb yn gallu dweud pethau drwg am neges Duw.

6. Annog y dynion ifanc hefyd i fod yn gyfrifol.

7. Bydd di dy hun yn esiampl iddyn nhw drwy wneud daioni. Dylet ti fod yn gwbl agored gyda nhw wrth eu dysgu. Gad iddyn nhw weld dy fod ti o ddifri.

8. Gwna'n siŵr dy fod yn dysgu beth sy'n gywir, fel bod neb yn gallu pigo bai arnat ti. Bydd hynny'n codi cywilydd ar y rhai sy'n dadlau yn dy erbyn, am fod ganddyn nhw ddim byd drwg i'w ddweud amdanon ni.

9. Dylai caethweision ymostwng i'w meistri bob amser, a gwneud eu gorau glas i'w plesio nhw. Peidio ateb yn ôl,

10. na dwyn oddi arnyn nhw, ond dangos bod eu meistri'n gallu eu trystio nhw'n llwyr. Wedyn bydd pobl yn cael eu denu at beth sy'n cael ei ddysgu am y Duw sy'n ein hachub ni.

11. Mae Duw wedi dangos ei haelioni rhyfeddol drwy gynnig achub unrhyw un.

12. Mae'n ein dysgu ni i ddweud “na” wrth ein pechod a'n chwantau bydol. Ein dysgu ni hefyd i fyw'n gyfrifol, gwneud beth sy'n iawn a rhoi'r lle canolog yn ein bywydau i Dduw. Dyna sut dylen ni fyw

13. wrth ddisgwyl am y digwyddiad bendigedig hwnnw pan fydd Iesu Grist, ein Duw mawr a'n Hachubwr ni, yn dod yn ôl yn ei holl ysblander.

14. Mae e wedi marw troson ni i'n rhyddhau ni o afael popeth drwg, ac i'n glanhau ni a'n gwneud ni'n bobl iddo fe'i hun – pobl sy'n frwd i wneud daioni.

15. Dyma ddylet ti ei ddysgu. Annog pobl i wneud y pethau yma. Cywira nhw pan mae angen. Mae'r awdurdod wedi ei roi i ti, felly paid gadael i neb dy ddiystyru di.