Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 9:5-16 beibl.net 2015 (BNET)

5. Eu hanes nhw ydy hanes Abraham, Isaac, Jacob a'i feibion, a nhw ydy'r genedl roedd y Meseia yn perthyn iddi fel dyn. Fe sy'n rheoli popeth, yn Dduw i gael ei foli am byth! Amen!

6. Ond dydy Duw ddim wedi torri ei air! Na! Achos dydy pawb sy'n perthyn i wlad Israel ddim yn bobl Israel go iawn.

7. A dydy profi eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham ddim yn golygu eich bod wir yn blant iddo. Beth mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud ydy, “Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw.”

8. Hynny ydy, dydy pawb sy'n perthyn i deulu Abraham ddim yn blant Duw. Y rhai sy'n blant go iawn i Abraham ydy'r rhai sy'n blant o ganlyniad i addewid Duw.

9. Dyma'r addewid wnaeth Duw: “Bydda i'n dod yn ôl yr adeg yma y flwyddyn nesa, a bydd Sara yn cael mab.”

10. Ac wedyn rhaid cofio beth ddigwyddodd i'r gefeilliaid gafodd Isaac a Rebecca.

11. A cofiwch fod hyn wedi digwydd cyn iddyn nhw gael eu geni, pan oedden nhw heb wneud dim byd drwg na da (sy'n dangos fod Duw'n gwneud beth mae'n ei addo yn ei ffordd ei hun. Fe sy'n dewis,

12. dim beth dŷn ni'n ei wneud sy'n cyfri.) Dwedodd Duw wrth Rebecca, “Bydd y mab hynaf yn was i'r ifancaf.”

13. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Dw i wedi caru Jacob, ond gwrthod Esau.”

14. Beth mae hyn yn ei olygu? Ydy e'n dangos fod Duw yn annheg? Wrth gwrs ddim!

15. Dwedodd Duw wrth Moses, “Fi sy'n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw, a phwy dw i'n mynd i dosturio wrthyn nhw.”

16. Hynny ydy, trugaredd Duw sydd tu ôl i'r cwbl, dim beth dŷn ni eisiau neu beth dŷn ni'n ei gyflawni.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 9