Dyma beth dw i'n ei ddweud, ffrindiau – trwy farwolaeth y Meseia ar y groes dych chi hefyd wedi ‛marw‛ yn eich perthynas â'r Gyfraith. Bellach dych chi'n perthyn i un arall, sef i'r un gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Felly dylai pobl weld ffrwyth hynny yn eich bywydau chi – ffrwyth fydd yn anrhydeddu Duw.