Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 6:8-23 beibl.net 2015 (BNET)

8. Ond os ydyn ni wedi marw gyda'r Meseia dŷn ni'n credu y cawn ni fyw gydag e hefyd!

9. Fydd y Meseia ddim yn marw byth eto, am ei fod wedi ei godi yn ôl yn fyw – does gan farwolaeth ddim gafael arno bellach.

10. Wrth farw, buodd e farw un waith ac am byth i bechod, ond bellach mae e'n byw i glodfori Duw!

11. Felly, dylech chithau hefyd ystyried eich hunain yn farw i bechod, a byw mewn perthynas â'r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw.

12. Peidiwch gadael i bechod reoli'ch bywydau chi ddim mwy. Peidiwch ufuddhau i'w chwantau.

13. Peidiwch gadael iddo reoli unrhyw ran o'ch corff i'w ddefnyddio i wneud beth sy'n ddrwg. Yn lle hynny gadewch i Dduw eich rheoli chi, a'ch defnyddio chi i wneud beth sy'n dda. Roeddech yn farw, ond bellach mae gynnoch chi fywyd newydd.

14. Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy'n eich rheoli chi bellach – mae Duw yn ei haelioni wedi'ch gollwng chi'n rhydd!

15. Felly, ydyn ni'n mynd i ddal i bechu am mai dim y Gyfraith sy'n ein rheoli ni bellach, a'n bod wedi profi haelioni Duw? Na! Wrth gwrs ddim!

16. Ydych chi ddim wedi deall? Mae rhywun yn gaeth i beth bynnag mae'n dewis ufuddhau iddo. Felly y dewis ydy, naill ai pechod yn arwain i farwolaeth neu ufudd-dod yn arwain i berthynas iawn gyda Duw.

17. Diolch i Dduw, dych chi wedi troi o fod yn gaeth i bechod i fod yn ufudd i beth mae Duw wedi ei ddysgu i chi.

18. Dych chi wedi'ch rhyddhau o afael pechod a dod yn weision i beth sy'n iawn.

19. Gadewch i mi ddefnyddio darlun o fywyd bob dydd sy'n hawdd i chi ei ddeall: O'r blaen roeddech chi'n gadael i bob math o fudreddi a drygioni eich rheoli chi. Ond bellach rhaid i chi adael i beth sy'n iawn eich rheoli chi, a'ch gwneud chi'n bobl sy'n byw bywydau glân.

20. Pan oeddech chi'n gaeth i bechod, doedd dim disgwyl i chi wneud beth sy'n iawn.

21. Ond beth oedd canlyniad hynny yn y pen draw? Marwolaeth! Dyna oedd canlyniad y pethau mae gynnoch chi gymaint o gywilydd ohonyn nhw bellach.

22. Ond nawr dych chi'n rhydd o afael pechod ac wedi dechrau gwasanaethu Duw. Canlyniad hynny ydy'r bywyd glân sy'n arwain yn y pen draw i fywyd tragwyddol.

23. Marwolaeth ydy'r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 6