2. Na, wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi marw i'r hen fywyd o bechod, felly sut allwn ni ddal ati i bechu o hyd?
3. Ydych chi ddim wedi deall? Pan gawson ni'n bedyddio i ddangos ein bod yn perthyn i'r Meseia Iesu, roedden ni'n uniaethu â'i farwolaeth e.
4. Wrth gael ein bedyddio, cawson ni'n claddu gydag e, am fod y person oedden ni o'r blaen wedi marw. Ac yn union fel y cafodd y Meseia ei godi yn ôl yn fyw drwy nerth bendigedig y Tad, dŷn ninnau hefyd bellach yn byw bywydau newydd.
5. Os ydyn ni wedi ein huno â'i farwolaeth, dŷn ni'n siŵr o gael ein huno hefyd â'i atgyfodiad.
6. Mae beth roedden ni'n arfer bod wedi cael ei ladd ar y groes gyda'r Meseia, er mwyn i'r awydd cryf sydd ynon ni i bechu ollwng gafael ynon ni, ac i ni beidio ei wasanaethu ddim mwy.
7. Os ydy rhywun wedi marw, mae'n rhydd o afael pechod.
8. Ond os ydyn ni wedi marw gyda'r Meseia dŷn ni'n credu y cawn ni fyw gydag e hefyd!
9. Fydd y Meseia ddim yn marw byth eto, am ei fod wedi ei godi yn ôl yn fyw – does gan farwolaeth ddim gafael arno bellach.
10. Wrth farw, buodd e farw un waith ac am byth i bechod, ond bellach mae e'n byw i glodfori Duw!
11. Felly, dylech chithau hefyd ystyried eich hunain yn farw i bechod, a byw mewn perthynas â'r Meseia Iesu er mwyn clodfori Duw.
12. Peidiwch gadael i bechod reoli'ch bywydau chi ddim mwy. Peidiwch ufuddhau i'w chwantau.
13. Peidiwch gadael iddo reoli unrhyw ran o'ch corff i'w ddefnyddio i wneud beth sy'n ddrwg. Yn lle hynny gadewch i Dduw eich rheoli chi, a'ch defnyddio chi i wneud beth sy'n dda. Roeddech yn farw, ond bellach mae gynnoch chi fywyd newydd.
14. Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy'n eich rheoli chi bellach – mae Duw yn ei haelioni wedi'ch gollwng chi'n rhydd!