Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 4:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Roedd Duw wedi addo i Abraham y byddai ei ddisgynyddion yn etifeddu'r ddaear. Cael perthynas iawn gyda Duw trwy gredu sy'n dod â'r addewid yn wir, dim gwneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.

14. Os mai'r etifeddion ydy'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n iawn am eu bod nhw'n ufudd i'r Gyfraith Iddewig, dydy credu yn dda i ddim – yn wir does dim pwynt i Dduw addo dim byd yn y lle cyntaf!

15. Beth mae'r Gyfraith yn ei wneud ydy dangos ein bod ni'n haeddu cael ein cosbi gan Dduw. Os oes dim cyfraith does dim trosedd.

16. Felly credu ydy'r ffordd i dderbyn beth mae Duw wedi ei addo! Rhodd Duw ydy'r cwbl! Ac mae disgynyddion Abraham i gyd yn ei dderbyn. Nid dim ond Iddewon sydd â'r Gyfraith ganddyn nhw, ond pawb sydd wedi credu yr un fath ag Abraham. Ydy, mae Abraham yn dad i ni i gyd!

17. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn hollol glir: “Dw i wedi dy wneud di'n dad i lawer o genhedloedd.” Dyna sut mae'r Duw y credodd Abraham ynddo yn gweld pethau. Fe ydy'r Duw sy'n gwneud pobl farw yn fyw ac yn galw i fod bethau oedd ddim yn bodoli o gwbl o'r blaen!

18. Do, credodd Abraham, a daliodd ati i gredu hyd yn oed pan oedd pethau'n edrych yn gwbl anobeithiol! Credodd y byddai yn “dad i lawer o genhedloedd.” Credodd beth ddwedodd Duw, “Fel yna fydd dy ddisgynyddion di.”

19. Daliodd ati i gredu'n hyderus, er ei fod yn gwybod ei fod yn llawer rhy hen i fod yn dad. Roedd yn gan mlwydd oed! Ac roedd Sara hefyd yn llawer rhy hen i fod yn fam.

20. Ond wnaeth Abraham ddim amau, na stopio credu beth oedd Duw wedi ei addo iddo. Yn wir roedd yn credu'n gryfach bob dydd, ac yn clodfori Duw drwy wneud hynny.

21. Roedd Abraham yn hollol sicr y gallai Duw wneud beth roedd wedi addo'i wneud.

22. Dyna pam y cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw!

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 4