Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 4:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ond beth am Abraham felly – tad y genedl Iddewig? Oes ganddo fe rywbeth i'w ddysgu i ni am hyn i gyd?

2. Os cafodd Abraham ei dderbyn gan Dduw am beth wnaeth e, roedd ganddo le i frolio. Ond dim felly oedd hi o safbwynt Duw.

3. Dyma mae'r ysgrifau'n ei ddweud amdano: “Credodd Abraham, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.”

4. Pan mae rhywun yn gweithio mae'n ystyried ei gyflog fel rhywbeth mae'n ei haeddu, dim fel rhodd.

5. Ond wrth gredu bod Duw yn derbyn pobl annuwiol i berthynas iawn ag e'i hun, dydy rhywun ddim yn dibynnu ar beth mae e'i hun wedi ei wneud. Mae'r “berthynas iawn gyda Duw” yn cael ei roi iddo fel rhodd.

6. Dwedodd y Brenin Dafydd yr un peth! (Mae'n sôn am y fendith sydd pan mae rhywun sy'n cael ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, ac yntau heb wneud dim i haeddu hynny):

7. “Mae'r rhai sydd wedi cael maddeuant am y pethau drwg wnaethon nhw wedi eu bendithio'n fawr! y rhai sydd â'u pechodau wedi eu symud o'r golwg am byth.

8. Mae'r rhai dydy'r Arglwydd ddim yn dal ati i gyfri eu pechod yn eu herbyn wedi eu bendithio'n fawr!”

9. Ai dim ond Iddewon (sef ‛pobl yr enwaediad‛) sy'n cael profi'r fendith yma? Neu ydy pobl eraill hefyd (sef ‛pobl sydd heb enwaediad‛)?Gadewch i ni droi'n ôl at Abraham i gael yr ateb: Dŷn ni wedi dweud mai trwy gredu y cafodd Abraham berthynas iawn gyda Duw.

10. Pryd ddigwyddodd hynny? Ai ar ôl iddo fynd trwy'r ddefod o gael ei enwaedu, neu cyn iddo gael ei enwaedu? Yr ateb ydy, cyn iddo gael ei enwaedu!

11. Ar ôl cael ei dderbyn y cafodd e ei enwaedu – a hynny fel arwydd o'r ffaith ei fod wedi credu. Roedd Duw eisoes wedi ei dderbyn i berthynas iawn ag e'i hun. Felly mae Abraham yn dad i bawb sy'n credu ond ddim wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.

12. Ond mae hefyd yn dad i'r rhai sy'n credu ac wedi cael eu henwaedu – dim am eu bod nhw wedi bod trwy'r ddefod, ond am eu bod wedi credu yr un fath ag Abraham.

13. Roedd Duw wedi addo i Abraham y byddai ei ddisgynyddion yn etifeddu'r ddaear. Cael perthynas iawn gyda Duw trwy gredu sy'n dod â'r addewid yn wir, dim gwneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 4