Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 2:6-23 beibl.net 2015 (BNET)

6. Bydd yn talu nôl i bob un beth mae'n ei haeddu.

7. Bydd y rhai sydd eisiau derbyn ysblander, anrhydedd ac anfarwoldeb gan Dduw – sef y rhai sy'n dal ati i wneud daioni – yn cael bywyd tragwyddol.

8. Ond y rhai hynny sydd ddim ond yn meddwl amdanyn nhw eu hunain, ac sy'n gwrthod y gwir ac yn gwneud pethau drwg – fydd dim byd ond dicter Duw a chosb yn eu disgwyl nhw.

9. Poen a dioddefaint fydd i'r rhai sy'n gwneud drwg – i'r Iddew ac i bawb arall;

10. ond ysblander, anrhydedd a heddwch dwfn fydd i'r rhai sy'n gwneud daioni – i'r Iddew ac i bawb arall.

11. Mae pawb yr un fath – does gan Dduw ddim ffefrynnau!

12. Bydd pobl sydd ddim yn Iddewon, a ddim yn gwybod am Gyfraith Duw, yn mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi pechu. A bydd Iddewon, sef y bobl mae'r Gyfraith ganddyn nhw, yn cael eu cosbi am bechu hefyd – am dorri'r Gyfraith honno.

13. Wedi'r cwbl, dydy clywed y Gyfraith ddim yn gwneud eich perthynas chi hefo Duw yn iawn; gwneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ddweud sy'n cyfri.

14. (Yn wir, mae pobl sydd ddim yn Iddewon yn gallu gwneud yn naturiol beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn – er eu bod nhw ddim yn gwybod am y Gyfraith. Maen nhw'n dangos eu bod yn gwybod beth sy'n iawn a beth sydd ddim er bod y Gyfraith ddim ganddyn nhw.

15. Maen nhw'n dangos fod gofynion Cyfraith Duw wedi eu hysgrifennu ar eu calonnau nhw. Mae eu cydwybod nhw naill ai'n eu cyhuddo nhw neu'n dweud wrthyn nhw eu bod yn gwneud y peth iawn.)

16. Yn ôl y newyddion da dw i'n ei gyhoeddi dyna fydd yn cyfri ar y diwrnod pan fydd Duw yn cael y Meseia Iesu i farnu cyfrinachau pawb.

17. Felly ble mae hynny'n dy adael di sy'n galw dy hun yn Iddew? Rwyt ti'n brolio fod gen ti berthynas â Duw am fod gen ti'r Gyfraith.

18. Rwyt ti'n honni dy fod ti'n gwybod beth mae Duw eisiau. Rwyt ti'n gallu dewis beth sydd orau i'w wneud (am dy fod wedi cael dy ddysgu yn y Gyfraith).

19. Rwyt ti'n gweld dy hun fel rhywun sy'n gallu dangos y ffordd i bobl eraill, a rhoi golau i bobl sydd ar goll yn y tywyllwch.

20. Rwyt ti'n meddwl dy fod ti'n gallu dysgu am Dduw i bobl sydd ddim yn gwybod amdano, ac i dy blant. Mae'r Gyfraith gen ti! Mae gen ti bopeth sydd angen ei wybod! Y gwir i gyd! …

21. Rwyt ti'n dysgu pobl eraill, wyt ti? Felly, pam wyt ti ddim wedi dy ddysgu dy hun? Ti'n dweud wrth rywun arall “Paid dwyn,” ond yn dwyn dy hun!

22. Ti'n dweud “Paid godinebu”, ond rwyt ti dy hun yn godinebu! Ti'n ffieiddio eilun-dduwiau, ond rwyt ti dy hun yn halogi'r cysegr!

23. Mae'n ddigon hawdd brolio dy fod yn gwybod beth mae Cyfraith Duw'n ei ddweud, ond trwy dorri'r Gyfraith honno rwyt ti dy hun yn amharchu Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 2