Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 2:19-29 beibl.net 2015 (BNET)

19. Rwyt ti'n gweld dy hun fel rhywun sy'n gallu dangos y ffordd i bobl eraill, a rhoi golau i bobl sydd ar goll yn y tywyllwch.

20. Rwyt ti'n meddwl dy fod ti'n gallu dysgu am Dduw i bobl sydd ddim yn gwybod amdano, ac i dy blant. Mae'r Gyfraith gen ti! Mae gen ti bopeth sydd angen ei wybod! Y gwir i gyd! …

21. Rwyt ti'n dysgu pobl eraill, wyt ti? Felly, pam wyt ti ddim wedi dy ddysgu dy hun? Ti'n dweud wrth rywun arall “Paid dwyn,” ond yn dwyn dy hun!

22. Ti'n dweud “Paid godinebu”, ond rwyt ti dy hun yn godinebu! Ti'n ffieiddio eilun-dduwiau, ond rwyt ti dy hun yn halogi'r cysegr!

23. Mae'n ddigon hawdd brolio dy fod yn gwybod beth mae Cyfraith Duw'n ei ddweud, ond trwy dorri'r Gyfraith honno rwyt ti dy hun yn amharchu Duw.

24. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud, “mae pobl y cenhedloedd yn dweud pethau drwg am Dduw o'ch achos chi.”

25. Byddai'r ddefod o enwaediad yn golygu rhywbeth taset ti'n gwneud popeth mae'r Gyfraith yn ei ofyn. Ond os wyt ti'n torri'r Gyfraith does gen ti ddim mantais – waeth i ti fod heb dy enwaedu ddim!

26. Ond os oes rhywun sydd ddim yn Iddew, a heb ei enwaedu, yn gwneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn, oni fydd Duw yn ei dderbyn e yn union fel petai wedi cael ei enwaedu?

27. Bydd y dyn sydd heb fod drwy'r ddefod o gael ei enwaedu (ond sy'n gwneud beth mae'r Gyfraith yn ei ofyn) yn dy gondemnio di sydd wedi ‛cadw at lythyren y ddeddf‛ drwy gael dy enwaedu yn gorfforol, ac eto'n dal i dorri'r Gyfraith!

28. Dydy'r pethau allanol ddim yn dy wneud di'n Iddew go iawn. A dydy'r ddefod gorfforol ddim yr un peth ag enwaediad go iawn.

29. Na, enwaediad go iawn ydy'r newid ynot ti sy'n dod drwy'r Ysbryd Glân, dim y weithred lythrennol o dorri'r blaengroen. Iddew go iawn ydy rhywun sydd wedi newid y tu mewn. Mae rhywun felly'n cael ei ganmol gan Dduw, dim gan bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 2