Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 2:13-20 beibl.net 2015 (BNET)

13. Wedi'r cwbl, dydy clywed y Gyfraith ddim yn gwneud eich perthynas chi hefo Duw yn iawn; gwneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ddweud sy'n cyfri.

14. (Yn wir, mae pobl sydd ddim yn Iddewon yn gallu gwneud yn naturiol beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn – er eu bod nhw ddim yn gwybod am y Gyfraith. Maen nhw'n dangos eu bod yn gwybod beth sy'n iawn a beth sydd ddim er bod y Gyfraith ddim ganddyn nhw.

15. Maen nhw'n dangos fod gofynion Cyfraith Duw wedi eu hysgrifennu ar eu calonnau nhw. Mae eu cydwybod nhw naill ai'n eu cyhuddo nhw neu'n dweud wrthyn nhw eu bod yn gwneud y peth iawn.)

16. Yn ôl y newyddion da dw i'n ei gyhoeddi dyna fydd yn cyfri ar y diwrnod pan fydd Duw yn cael y Meseia Iesu i farnu cyfrinachau pawb.

17. Felly ble mae hynny'n dy adael di sy'n galw dy hun yn Iddew? Rwyt ti'n brolio fod gen ti berthynas â Duw am fod gen ti'r Gyfraith.

18. Rwyt ti'n honni dy fod ti'n gwybod beth mae Duw eisiau. Rwyt ti'n gallu dewis beth sydd orau i'w wneud (am dy fod wedi cael dy ddysgu yn y Gyfraith).

19. Rwyt ti'n gweld dy hun fel rhywun sy'n gallu dangos y ffordd i bobl eraill, a rhoi golau i bobl sydd ar goll yn y tywyllwch.

20. Rwyt ti'n meddwl dy fod ti'n gallu dysgu am Dduw i bobl sydd ddim yn gwybod amdano, ac i dy blant. Mae'r Gyfraith gen ti! Mae gen ti bopeth sydd angen ei wybod! Y gwir i gyd! …

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 2