Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 15:23-33 beibl.net 2015 (BNET)

23. Ond bellach does unman ar ôl i mi weithio yn yr ardaloedd yma, a dw i wedi bod yn dyheu am gyfle i ymweld â chi ers blynyddoedd.

24. Dw i am fynd i Sbaen, ac yn gobeithio galw heibio chi yn Rhufain ar y ffordd. Ar ôl i mi gael y pleser o'ch cwmni chi am ychydig, cewch chi fy helpu i fynd ymlaen yno.

25. Ar hyn o bryd dw i ar fy ffordd i Jerwsalem, gyda rhodd i helpu'r Cristnogion yno.

26. Mae'r Cristnogion yn Macedonia ac Achaia wedi casglu arian i'w rannu gyda'r Cristnogion tlawd yn Jerwsalem.

27. Roedden nhw'n falch o gael cyfle i rannu fel hyn, am eu bod yn teimlo fod ganddyn nhw ddyled i'w thalu. Mae pobl y cenhedloedd wedi cael rhannu bendithion ysbrydol yr Iddewon, felly mae'n ddigon teg i'r Iddewon gael help materol.

28. Pan fydda i wedi gorffen hyn, a gwneud yn siŵr eu bod wedi derbyn yr arian, dw i'n mynd i alw heibio i'ch gweld chi ar fy ffordd i Sbaen.

29. Dw i'n gwybod y bydda i'n dod i rannu bendith fawr gan y Meseia gyda chi.

30. Frodyr a chwiorydd, sy'n perthyn i'r Arglwydd Iesu Grist ac yn rhannu'r cariad mae'r Ysbryd yn ei roi, dw i'n apelio arnoch chi i ymuno gyda mi yn y frwydr drwy weddïo drosto i.

31. Gweddïwch y bydd Duw yn fy amddiffyn i rhag y rhai yn Jwdea sy'n gwrthod ufuddhau i Dduw. Gweddïwch hefyd y bydd y Cristnogion yn Jerwsalem yn derbyn y rhodd sydd gen i iddyn nhw.

32. Wedyn, os Duw a'i myn, galla i ddod atoch chi yn llawen a chael seibiant gyda chi.

33. Dw i'n gweddïo y bydd Duw, sy'n rhoi ei heddwch perffaith i ni, gyda chi i gyd. Amen.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 15