Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 14:15-23 beibl.net 2015 (BNET)

15. Felly os wyt ti'n bwyta rhywbeth gan wybod ei fod yn broblem i Gristion arall, dwyt ti ddim yn dangos rhyw lawer o gariad. Paid gadael i dy arferion bwyta di wneud niwed i rywun arall wnaeth y Meseia farw drosto.

16. A paid gadael i beth sy'n iawn yn dy olwg di wneud i bobl sydd ddim yn Gristnogion amharchu'r Meseia.

17. Dim beth wyt ti'n ei fwyta a'i yfed sy'n dangos fod Duw'n teyrnasu yn dy fywyd di. Perthynas iawn gyda Duw sy'n cyfri, a'r heddwch dwfn a'r llawenydd mae'r Ysbryd Glân yn ei roi.

18. Mae'r un sy'n dilyn y Meseia fel yma yn plesio Duw ac yn cael ei barchu gan bobl eraill.

19. Felly gadewch i ni wneud beth sy'n arwain i heddwch ac sy'n cryfhau pobl eraill.

20. Peidiwch dinistrio gwaith da Duw er mwyn cael bwyta beth fynnwch chi. Mae pob bwyd yn iawn i'w fwyta, ond ddylech chi ddim bwyta rhywbeth os ydy e'n creu problemau i rywun arall.

21. Mae'n well dewis peidio bwyta cig am unwaith, a pheidio yfed gwin, a pheidio gwneud unrhyw beth fyddai'n achosi i Gristion arall faglu.

22. Beth bynnag rwyt yn ei gredu am hyn i gyd, cadwa hynny rhyngot ti a Duw. Mae bendith fawr i'r un sydd ddim yn ei gondemnio ei hun drwy fynnu gwneud beth mae e'n gredu sy'n iawn o hyd!

23. Ond mae'r person sydd ddim yn siŵr beth sy'n iawn yn ei gondemnio ei hun wrth fwyta – am beidio gwneud beth mae'n gredu fyddai Duw am iddo'i wneud. Mae peidio gwneud beth dŷn ni'n gredu mae Duw am i ni ei wneud yn bechod.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 14