Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 11:4-19 beibl.net 2015 (BNET)

4. Beth oedd ateb Duw iddo? Dyma ddwedodd Duw: “Mae gen i saith mil o bobl eraill sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal.”

5. Ac mae'r un peth yn wir heddiw – mae Duw yn ei haelioni wedi dewis cnewyllyn o Iddewon i gael eu hachub.

6. Ac os mai dim ond haelioni Duw sy'n eu hachub nhw, dim beth maen nhw yn ei wneud sy'n cyfri bellach. Petai hynny'n cyfri fyddai Duw ddim yn hael!

7. Dyma beth mae hyn yn ei olygu: Wnaeth pawb yn Israel ddim cael gafael yn beth roedden nhw'n ei geisio mor daer. Ond mae rhai wedi ei gael, sef y rhai mae Duw wedi eu dewis. Mae'r lleill wedi troi'n ystyfnig.

8. Fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Gwnaeth Duw nhw'n swrth, a rhoi iddyn nhw lygaid sy'n methu gweld a chlustiau sydd ddim yn clywed – ac maen nhw'n dal felly heddiw.”

9. A dwedodd y Brenin Dafydd fel hyn: “Gad i'w bwrdd bwyd droi'n fagl ac yn rhwyd, yn drap ac yn gosb iddyn nhw;

10. gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall, a'u cefnau wedi eu crymu am byth dan y pwysau.”

11. Felly ydw i'n dweud fod yr Iddewon wedi baglu a syrthio, a byth yn mynd i godi eto? Wrth gwrs ddim! Mae'r ffaith eu bod nhw wedi llithro yn golygu fod pobl o genhedloedd eraill yn cael eu hachub. Ac mae hynny yn ei dro yn gwneud yr Iddewon yn eiddigeddus.

12. Ac os ydy eu colled nhw am eu bod wedi llithro yn cyfoethogi'r byd, a'u methiant nhw wedi helpu pobl o genhedloedd eraill, meddyliwch gymaint mwy fydd y fendith pan fyddan nhw'n dod i gredu!

13. Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi sydd ddim yn Iddewon. Dw i'n ei chyfri hi'n fraint fod Duw wedi fy ngalw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, i rannu ei neges gyda chi.

14. Ond dw i eisiau gwneud fy mhobl fy hun yn eiddigeddus ohonoch chi, er mwyn i rai ohonyn nhw hefyd gael eu hachub.

15. Os ydy eu taflu nhw i ffwrdd wedi golygu fod pobl o weddill y byd yn dod i berthynas iawn â Duw, beth fydd canlyniad eu derbyn nhw yn ôl? Bydd fel petai'r meirw'n dod yn ôl yn fyw!

16. Os ydy'r offrwm cyntaf o does wedi ei gysegru i Dduw, mae'r cwbl yn gysegredig. Os ydy gwreiddiau'r goeden yn sanctaidd, bydd y canghennau felly hefyd.

17. Mae rhai o'r canghennau wedi cael eu llifio i ffwrdd, a thithau'n sbrigyn o olewydden wyllt wedi cael dy impio yn eu lle. Felly rwyt ti bellach yn cael rhannu'r maeth sy'n dod o wreiddiau'r olewydden.

18. Ond paid meddwl dy fod ti'n wahanol i'r canghennau gafodd eu llifio i ffwrdd! Cofia mai dim ti sy'n cynnal y gwreiddiau – y gwreiddiau sy'n dy gynnal di!

19. “Ond cafodd y canghennau hynny eu llifio i ffwrdd er mwyn i mi gael fy impio i mewn,” meddet ti.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 11