11. Dw i ddim yn dweud hyn am fy mod i mewn angen, achos dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy'n digwydd i mi.
12. Dw i'n gwybod sut mae byw pan dw i'n brin, a sut beth ydy bod ar ben fy nigon. Dw i wedi dysgu'r gyfrinach o fod yn hapus beth bynnag ydy'r sefyllfa – pan mae gen i stumog lawn, a phan dw i'n llwgu, os oes gen i hen ddigon neu os nad oes gen i ddim.
13. Dw i'n gallu wynebu pob sefyllfa am fod y Meseia yn rhoi'r nerth i mi wneud hynny.
14. Beth bynnag, diolch i chi am fod mor barod i rannu gyda mi pan oedd pethau'n anodd.
15. Yn y dyddiau cynnar pan glywoch chi'r newyddion da gyntaf, pan adewais i Macedonia, chi yn Philipi oedd yr unig rai wnaeth fy helpu i – dych chi'n gwybod hynny'n iawn.
16. Hyd yn oed pan roeddwn i yn Thesalonica, dyma chi'n anfon rhodd ata i sawl tro.
17. A dw i ddim yn pysgota am rodd arall wrth ddweud hyn i gyd. Dim ond eisiau i chi ddal ati i ychwanegu at eich stôr o weithredoedd da ydw i.
18. Dw i wedi derbyn popeth sydd arna i ei angen, a mwy! Bellach mae gen i hen ddigon ar ôl derbyn eich rhodd gan Epaffroditws. Mae'r cwbl fel offrwm i Dduw – yn arogli'n hyfryd, ac yn aberth sy'n dderbyniol gan Dduw ac yn ei blesio.
19. Bydd Duw yn rhoi popeth sydd arnoch ei angen i chithau – mae ganddo stôr rhyfeddol o gyfoeth i'w rannu gyda ni sy'n perthyn i'r Meseia Iesu.
20. Felly, bydded i Dduw a'n Tad ni gael ei foli am byth! Amen!
21. Cofiwch fi at bob un o'r Cristnogion acw. Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion.