Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 4:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i'n eich caru chi gymaint ac yn hiraethu amdanoch chi. Dych chi'n fy ngwneud i mor hapus, a dw i mor falch ohonoch chi. Felly daliwch ati – arhoswch yn ffyddlon i'r Arglwydd.

2. Dw i'n apelio ar Euodia a Syntyche i ddod ymlaen â'i gilydd am eu bod yn perthyn i'r Arglwydd.

3. A dw i'n gofyn i ti, fy mhartner ffyddlon i, eu helpu nhw. Mae'r ddwy yn wragedd sydd wedi brwydro gyda mi o blaid y newyddion da, gyda Clement a phob un arall o'm cydweithwyr. Mae eu henwau i gyd yn Llyfr y Bywyd.

4. Byddwch yn llawen bob amser am eich bod yn perthyn i'r Arglwydd. Dw i'n dweud eto: Byddwch yn llawen!

5. Gadewch i bawb weld eich bod yn bobl garedig. Mae'r Arglwydd yn dod yn fuan.

6. Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.

7. Byddwch chi'n profi'r heddwch perffaith mae Duw'n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a'ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.

8. Ac un peth arall i gloi, ffrindiau: meddyliwch bob amser am beth sy'n wir ac i'w edmygu – am beth sy'n iawn i'w wneud, yn bur, yn garedig ac yn anrhydeddus – hynny ydy, popeth da ac unrhyw beth sy'n haeddu ei ganmol.

9. Gwnewch y pethau hynny dych chi wedi eu dysgu a'u gweld a'u clywed gen i. A bydd y Duw sy'n rhoi ei heddwch gyda chi.

10. Roeddwn i mor llawen, ac yn diolch i'r Arglwydd eich bod wedi dangos gofal amdana i unwaith eto. Dw i'n gwybod mai felly roeddech chi'n teimlo drwy'r adeg, ond doedd dim cyfle i chi ddangos hynny.

11. Dw i ddim yn dweud hyn am fy mod i mewn angen, achos dw i wedi dysgu bod yn fodlon beth bynnag sy'n digwydd i mi.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 4