Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 3:9-20 beibl.net 2015 (BNET)

9. perthyn i'r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i'w wneud (hynny ydy, ufuddhau i'r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy'n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy'n credu ynddo!

10. Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny'n golygu marw drosto!

11. Bydda innau wedyn yn cael rhannu'r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw.

12. Dw i ddim yn honni fy mod i eisoes wedi cyrraedd, nac yn honni bod yn berffaith! Ond dw i'n dal ati er mwyn ennill y cwbl mae'r Meseia Iesu wedi ei fwriadu ar fy nghyfer i pan alwodd fi i'w ddilyn.

13. Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i ddim am eiliad yn meddwl mod i eisoes wedi cyrraedd! Y cwbl dw i'n ei ddweud ydy hyn: Dw i'n anghofio beth sydd tu cefn i mi ac yn canolbwyntio fy holl egni ar beth sydd o'm blaen i.

14. Fel taswn i mewn ras, dw i'n rhedeg at y llinell derfyn gyda'r bwriad o ennill! Dw i am ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i'r nefoedd o achos beth wnaeth y Meseia Iesu.

15. Felly gadewch i bob un ohonon ni sy'n ‛berffaith‛ fod â'r un agwedd. Os dych chi'n gweld pethau'n wahanol, dw i'n credu y bydd Duw yn dangos eich camgymeriad i chi.

16. Beth bynnag, gadewch i ni fyw yn gyson â beth dŷn ni eisoes yn ei wybod sy'n wir.

17. Dw i am i chi ddilyn fy esiampl i, frodyr a chwiorydd, a dysgu gan y rhai sy'n byw fel yma – dŷn ni wedi dangos y ffordd i chi.

18. Dw i wedi dweud hyn lawer gwaith, a dw i'n dweud yr un peth eto gyda dagrau – mae llawer yn byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod nhw'n elynion i'r neges am farwolaeth y Meseia ar y groes.

19. Dinistr fydd eu diwedd nhw! Dynion sy'n addoli beth maen nhw'n ei fwyta – dyna'r duw sy'n eu rheoli nhw! Dynion sy'n brolio am beth ddylai godi cywilydd arnyn nhw! Pethau'r byd ydy'r unig bethau sydd ar eu meddyliau nhw.

20. Ond dŷn ni'n wahanol. Dŷn ni'n ddinasyddion y nefoedd, ac yn edrych ymlaen yn frwd i'n Hachubwr, yr Arglwydd Iesu Grist, ddod yn ôl o'r nefoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 3