Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 3:16-21 beibl.net 2015 (BNET)

16. Beth bynnag, gadewch i ni fyw yn gyson â beth dŷn ni eisoes yn ei wybod sy'n wir.

17. Dw i am i chi ddilyn fy esiampl i, frodyr a chwiorydd, a dysgu gan y rhai sy'n byw fel yma – dŷn ni wedi dangos y ffordd i chi.

18. Dw i wedi dweud hyn lawer gwaith, a dw i'n dweud yr un peth eto gyda dagrau – mae llawer yn byw mewn ffordd sy'n dangos eu bod nhw'n elynion i'r neges am farwolaeth y Meseia ar y groes.

19. Dinistr fydd eu diwedd nhw! Dynion sy'n addoli beth maen nhw'n ei fwyta – dyna'r duw sy'n eu rheoli nhw! Dynion sy'n brolio am beth ddylai godi cywilydd arnyn nhw! Pethau'r byd ydy'r unig bethau sydd ar eu meddyliau nhw.

20. Ond dŷn ni'n wahanol. Dŷn ni'n ddinasyddion y nefoedd, ac yn edrych ymlaen yn frwd i'n Hachubwr, yr Arglwydd Iesu Grist, ddod yn ôl o'r nefoedd.

21. Bydd yn trawsffurfio ein cyrff marwol, tila ni, ac yn eu gwneud yr un fath â'i gorff rhyfeddol ei hun, drwy'r grym sy'n ei alluogi i osod pob peth dan ei reolaeth ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 3