Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 3:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn olaf, ffrindiau, byddwch yn llawen eich bod chi'n perthyn i'r Arglwydd!Dw i ddim yn blino dal ati i ysgrifennu'r un peth atoch chi. Dw i'n gwneud hynny i'ch amddiffyn chi.

2. Gwyliwch y bobl hynny sydd ond eisiau gwneud drwg – y cŵn annifyr! Y rhai sy'n dweud fod rhaid torri'r cnawd â chyllell i gael eich achub!

3. Ni, dim nhw, ydy'r rhai sydd wedi cael ein henwaedu go iawn – ni sy'n addoli Duw dan arweiniad yr Ysbryd Glân. Ni sy'n ymfalchïo yn beth wnaeth y Meseia Iesu, dim beth sydd wedi ei wneud i'r corff.

4. Er, byddai gen i ddigon o sail i ymddiried yn hynny taswn i eisiau! Mae gen i fwy o le i ymddiried yn y math yna o beth na neb!

5. Ces i fy enwaedu yn wythnos oed;dw i'n dod o dras Iddewig pur;dw i'n aelod o lwyth Benjamin;dw i'n siarad Hebraeg, fel mae fy rhieni;roeddwn i'n Pharisead oedd yn cadw Cyfraith Moses yn fanwl, fanwl;

6. roeddwn i mor frwd nes i mi fynd ati i erlid yr eglwys Gristnogol.Yn ôl y safonau mae'r Gyfraith Iddewig yn ei hawlio, doedd neb yn gallu gweld bai arna i.

7. Roeddwn i'n cyfri'r pethau yna i gyd mor bwysig ar un adeg, ond o achos beth wnaeth y Meseia, dŷn nhw'n dda i ddim bellach.

8. Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na'r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i'n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i'n cael y Meseia. Sbwriel ydy'r cwbl o'i gymharu â chael

9. perthyn i'r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i'w wneud (hynny ydy, ufuddhau i'r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy'n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy'n credu ynddo!

10. Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny'n golygu marw drosto!

11. Bydda innau wedyn yn cael rhannu'r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 3