Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 2 beibl.net 2015 (BNET)

Bod yn ostyngedig, fel Iesu

1. Os ydy perthyn i'r Meseia yn anogaeth o unrhyw fath i chi; os ydy ei gariad o unrhyw gysur i chi; os ydy'r Ysbryd yn eich clymu chi'n un, ac yn eich gwneud yn llawn tosturi ac yn garedig

2. – yna gwnewch fi'n wirioneddol hapus drwy rannu'r un agwedd meddwl, dangos cariad at eich gilydd, a bod yn un o ran ysbryd a phwrpas.

3. Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi'ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi'n well na phobl eraill.

4. Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi'ch hunain.

5. Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu:

6. Roedd e'n rhannu'r un natur â Duw,heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw;

7. ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill,a gwneud ei hun yn gaethwas,a dod aton ni fel person dynol –roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn.

8. Yna diraddio ei hun fwy fyth,a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw –ie, trwy gael ei ddienyddio ar y groes.

9. Felly dyma Duw yn ei ddyrchafu i'r safle uchaf;a rhoi'r enw pwysica un iddo!

10. Bydd pob glin yn plygu i enw Iesu –pawb yn y nefoedd,ar y ddaear,a than y ddaear;

11. a bydd pawb yn cydnabod mai Iesu Grist ydy'r Arglwydd,ac yn rhoi clod i Dduw y Tad.

Disgleirio fel sêr

12. Felly, ffrindiau annwyl, fel roeddech chi'n ufudd pan oeddwn i acw gyda chi, mae'n bwysicach fyth eich bod chi'n ufudd pan dw i'n absennol. Gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol fel cymuned.

13. Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu'r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy'n ei blesio fe.

14. Gwnewch bopeth heb gwyno a ffraeo,

15. er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr

16. wrth i chi rannu'r neges am y bywyd newydd gydag eraill. Wedyn pan ddaw y Meseia yn ôl, bydda i yn gallu bod yn falch ohonoch chi. Bydda i'n gwybod na fuodd yr holl redeg a'r gwaith caled yn wastraff amser.

17. Mae'n bosib iawn y bydda i'n marw fel merthyr, a'm gwaed i'n cael ei dywallt fel diodoffrwm ar aberth y gwasanaeth ffyddlon dych chi'n ei gyflwyno i Dduw. Os mai dyna sydd i ddigwydd, dw i'n hapus, ac am rannu fy llawenydd gyda chi.

18. A dylech chithau hefyd fod yn hapus, i mi gael rhannu eich llawenydd chi.

Timotheus ac Epaffroditws

19. Dw i'n gobeithio anfon Timotheus atoch chi'n fuan, os bydd yr Arglwydd Iesu yn caniatáu hynny, er mwyn cael newyddion amdanoch chi fydd yn codi nghalon i.

20. Does gen i neb tebyg i Timotheus. Mae'n teimlo'n union fel dw i'n teimlo – mae ganddo'r fath gonsýrn drosoch chi.

21. Poeni amdanyn nhw eu hunain mae pawb arall, dim am beth sy'n bwysig i Iesu Grist.

22. Ond mae Timotheus yn wahanol, mae wedi profi ei hun yn wahanol. Mae wedi gweithio gyda mi dros y newyddion da, fel mab yn helpu ei dad.

23. Felly dw i'n gobeithio ei anfon atoch chi cyn gynted ag y ca i wybod beth sy'n mynd i ddigwydd i mi.

24. Ac ydw, dw i wir yn hyderus y bydd yr Arglwydd yn caniatáu i minnau ddod i'ch gweld chi'n fuan!

25. Ond yn y cyfamser dw i wedi bod yn teimlo bod rhaid i mi anfon Epaffroditws yn ôl atoch chi – brawd ffyddlon arall sy'n gydweithiwr ac yn gyd-filwr dros achos Iesu. Chi wnaeth ei anfon e i'm helpu i pan roeddwn i angen help.

26. Mae wedi bod yn hiraethu amdanoch chi, ac yn poeni'n fawr eich bod wedi clywed ei fod wedi bod yn sâl.

27. Mae'n wir, roedd e'n wirioneddol sâl. Bu bron iddo farw. Ond buodd Duw'n garedig ato – ac ata i hefyd. Petai e wedi marw byddwn i wedyn wedi cael fy llethu gan fwy fyth o dristwch.

28. Dyna pam dw i mor awyddus i'w anfon yn ôl atoch chi. Dw i'n gwybod y byddwch chi mor llawen o'i weld, a fydd dim rhaid i mi boeni cymaint.

29. Felly rhowch groeso brwd iddo. Dylid anrhydeddu pobl debyg iddo,

30. achos bu bron iddo farw wrth wasanaethu'r Meseia. Mentrodd ei fywyd er mwyn fy helpu i, a gwneud ar eich rhan chi beth roeddech chi'n methu ei wneud eich hunain.