19. Dych chi wrthi'n gweddïo, ac mae Ysbryd Iesu y Meseia yn fy nghynnal i. Felly dw i'n gwybod y bydda i'n cael fy rhyddhau yn y diwedd.
20. Dw i'n edrych ymlaen at y dyfodol yn frwd, ac yn gobeithio na wna i ddim byd i siomi fy Arglwydd. Dw i eisiau bod yn ddewr bob amser, ac yn arbennig felly nawr, fel bod y Meseia yn cael ei fawrygu drwy bopeth dw i'n ei wneud – hyd yn oed petai rhaid i mi farw yma!
21. I mi, y Meseia ydy holl ystyr a phwrpas byw, a dw i'n ennill hyd yn oed os bydda i'n cael fy lladd!
22. Ond wedyn ar y llaw arall, os ca i fyw bydda i'n gallu dal ati i weithio dros y Meseia Iesu. Beth fyddwn i'n ei ddewis fy hun? Dw i ddim yn gwybod!
23. Dw i'n cael fy nhynnu'r naill ffordd a'r llall: Dw i'n dyheu am gael gadael y byd yma i fod gyda'r Meseia am byth – dyna'n sicr ydy'r peth gorau allai ddigwydd i mi, o bell ffordd!
24. Ond mae'n well o lawer i chi os ca i aros yn fyw.
25. O feddwl am y peth, dw i'n reit siŵr y bydda i'n aros, i'ch helpu chi i dyfu a phrofi'r llawenydd sydd i'w gael o gredu yn y Meseia.
26. Felly pan fydda i'n dod atoch chi eto, bydd gynnoch chi fwy fyth o reswm i frolio am y Meseia Iesu.
27. Ond beth bynnag fydd yn digwydd i mi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dal ati i ymddwyn mewn ffordd sy'n dangos fod y newyddion da am y Meseia yn wir. Wedyn, os bydda i'n dod i'ch gweld chi neu beidio, byddwch chi'n sefyll yn gadarn ac yn brwydro'n galed gyda'ch gilydd dros y newyddion da.
28. Peidiwch bod ag ofn y bobl hynny sy'n eich erbyn chi. Bydd hyn i gyd yn arwydd iddyn nhw y byddan nhw'n cael eu dinistrio, ond y cewch chi eich achub – a hynny gan Dduw.
29. Eich braint chi ydy dim yn unig credu yn y Meseia, ond hefyd cael dioddef drosto.