Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 1:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul a Timotheus – gweision i'r Meseia Iesu.At bawb yn Philipi sy'n bobl i Dduw ac yn perthyn i'r Meseia Iesu, ac at yr arweinwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu yn yr eglwys:

2. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.

3. Bob tro dw i'n meddwl amdanoch chi dw i'n diolch i Dduw am bob un ohonoch chi.

4. Dw i'n gweddïo'n daer drosoch chi, ac yn teimlo mor llawen wrth wneud hynny,

5. am eich bod chi o'r dechrau cyntaf wedi bod yn bartneriaid i mi yn y gwaith o rannu'r newyddion da.

6. Felly dw i'n hollol sicr y bydd Duw, sydd wedi dechrau gwneud pethau mor wych yn eich plith chi, yn dal ati nes bydd wedi gorffen ei waith ar y diwrnod y bydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl.

7. Dych chi'n sbesial iawn yn fy ngolwg i, felly mae'n naturiol mod i'n teimlo fel hyn amdanoch chi. Dim ots os ydw i'n y carchar neu â nhraed yn rhydd, dych chi bob amser wedi fy helpu i wneud y gwaith mae Duw wedi ei roi i mi – sef y gwaith o amddiffyn a rhannu'r newyddion da am Iesu y Meseia.

8. Dim ond Duw sy'n gwybod gymaint o hiraeth sydd gen i amdanoch chi – dw i'n eich caru chi fel mae'r Meseia Iesu ei hun yn eich caru chi!

9. Yr hyn dw i'n ei weddïo drosoch chi ydy y bydd eich cariad chi'n mynd o nerth i nerth, ac y byddwch chi'n tyfu yn eich dealltwriaeth o'r gwirionedd a'ch gallu i benderfynu beth sy'n iawn.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 1