Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 9:23-38 beibl.net 2015 (BNET)

23. Pan gyrhaeddodd Iesu dŷ'r dyn, roedd tyrfa swnllyd o bobl yn galaru, a rhai yn canu pibau.

24. “Ewch i ffwrdd!” meddai wrthyn nhw, “Dydy'r ferch fach ddim wedi marw – cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben,

25. ond dyma Iesu'n anfon y dyrfa allan o'r tŷ. Yna aeth at y ferch fach a gafael yn ei llaw, a chododd ar ei thraed.

26. Aeth yr hanes am hyn ar led drwy'r ardal honno i gyd.

27. Pan aeth Iesu yn ei flaen oddi yno dyma ddau ddyn dall yn ei ddilyn, gan weiddi'n uchel, “Helpa ni, Fab Dafydd!”

28. Ar ôl mynd i mewn i'r tŷ, dyma'r dynion yn dod ato, a gofynnodd iddyn nhw, “Ydych chi'n credu go iawn y galla i wneud hyn?” “Ydyn, Arglwydd,” medden nhw.

29. Yna cyffyrddodd eu llygaid nhw a dweud, “Cewch beth dych wedi ei gredu sy'n bosib,”

30. ac roedden nhw'n gallu gweld eto. Dyma Iesu'n eu rhybuddio'n llym, “Gwnewch yn siŵr fod neb yn gwybod am hyn.”

31. Ond pan aethon nhw allan, dyma nhw'n dweud wrth bawb drwy'r ardal i gyd amdano.

32. Wrth iddyn nhw adael, dyma rhyw bobl yn dod â dyn at Iesu oedd yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul.

33. Pan gafodd y cythraul ei fwrw allan ohono, dyma'r dyn yn dechrau siarad. Roedd y dyrfa wedi ei syfrdanu, a phobl yn dweud, “Does dim byd tebyg i hyn wedi digwydd yn Israel erioed o'r blaen.”

34. Ond roedd y Phariseaid yn dweud, “Tywysog y cythreuliaid sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.”

35. Roedd Iesu'n teithio o gwmpas yr holl drefi a'r pentrefi yn dysgu'r bobl yn eu synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw, ac yn iacháu pob afiechyd a salwch.

36. Roedd gweld tyrfaoedd o bobl yn ennyn tosturi ynddo, am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth.

37. Ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin!

38. Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i'w feysydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 9