20. Dyna pryd y daeth rhyw wraig oedd wedi bod yn dioddef o waedlif ers deuddeng mlynedd a sleifio i fyny y tu ôl iddo a chyffwrdd y taselau ar ei glogyn.
21. Roedd yn meddwl, “Petawn i ond yn llwyddo i gyffwrdd ei glogyn ca i fy iacháu.”
22. Trodd Iesu a'i gweld, ac meddai wrthi, “Cod dy galon, wraig annwyl. Am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” A'r eiliad honno cafodd y wraig ei hiacháu.
23. Pan gyrhaeddodd Iesu dŷ'r dyn, roedd tyrfa swnllyd o bobl yn galaru, a rhai yn canu pibau.
24. “Ewch i ffwrdd!” meddai wrthyn nhw, “Dydy'r ferch fach ddim wedi marw – cysgu mae hi!” Dechreuodd pobl chwerthin am ei ben,
25. ond dyma Iesu'n anfon y dyrfa allan o'r tŷ. Yna aeth at y ferch fach a gafael yn ei llaw, a chododd ar ei thraed.
26. Aeth yr hanes am hyn ar led drwy'r ardal honno i gyd.
27. Pan aeth Iesu yn ei flaen oddi yno dyma ddau ddyn dall yn ei ddilyn, gan weiddi'n uchel, “Helpa ni, Fab Dafydd!”
28. Ar ôl mynd i mewn i'r tŷ, dyma'r dynion yn dod ato, a gofynnodd iddyn nhw, “Ydych chi'n credu go iawn y galla i wneud hyn?” “Ydyn, Arglwydd,” medden nhw.
29. Yna cyffyrddodd eu llygaid nhw a dweud, “Cewch beth dych wedi ei gredu sy'n bosib,”
30. ac roedden nhw'n gallu gweld eto. Dyma Iesu'n eu rhybuddio'n llym, “Gwnewch yn siŵr fod neb yn gwybod am hyn.”