Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 9:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. A dyma rhyw bobl yn dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Pan welodd Iesu eu ffydd nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi ei barlysu, “Cod dy galon, ffrind; mae dy bechodau wedi eu maddau.”

3. Dyma rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud wrth ei gilydd, “Mae'r dyn yma'n cablu!”

4. Ond roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, ac meddai, “Pam dych chi'n meddwl yn ddrwg amdana i?

5. Beth ydy'r peth hawsaf i'w ddweud – ‘Mae dy bechodau wedi eu maddau,’ neu, ‘Cod ar dy draed a cherdda’?

6. Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear …” Yna dyma Iesu'n troi at y dyn oedd wedi ei barlysu, a dweud, “Saf ar dy draed, cymer dy fatras a dos adre.”

7. Yna cododd y dyn ar ei draed ac aeth adre.

8. Roedd y dyrfa wedi dychryn, ac yn moli Duw, am iddo roi'r fath awdurdod i ddyn.

9. Wrth i Iesu fynd yn ei flaen, gwelodd ddyn o'r enw Mathew yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Mathew ar unwaith a mynd ar ei ôl.

10. Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion i dŷ Mathew am bryd o fwyd. Daeth criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛, i'r parti hefyd.

11. Wrth weld hyn, dyma'r Phariseaid yn gofyn i'w ddisgyblion, “Pam mae eich athro yn bwyta gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”

12. Clywodd Iesu nhw, ac meddai, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl.

13. Mae'n bryd i chi ddysgu beth ydy ystyr y dywediad: ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau.’ Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.”

14. Dyma ddisgyblion Ioan yn dod ato a gofyn iddo, “Dŷn ni a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?”

15. Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i fod yn drist ac i alaru! Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab! Ond bydd y priodfab yn cael ei gymryd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, a byddan nhw'n ymprydio bryd hynny.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 9