Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 6:22-34 beibl.net 2015 (BNET)

22. “Y llygad ydy lamp y corff. Felly, mae llygad iach (sef bod yn hael) yn gwneud dy gorff yn olau trwyddo.

23. Ond mae llygad sâl (sef bod yn hunanol) yn gwneud dy gorff yn dywyll trwyddo. Felly os ydy dy oleuni di yn dywyllwch, mae'n dywyll go iawn arnat ti!

24. “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.

25. “Felly, dyma dw i'n ddweud – peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w yfed a beth i'w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad?

26. Meddyliwch am adar er enghraifft: Dyn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau – ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na nhw.

27. Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach trwy boeni!

28. “A pham poeni am ddillad? Meddyliwch sut mae blodau gwyllt yn tyfu. Dydy blodau ddim yn gweithio nac yn nyddu.

29. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw.

30. Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi?

31. Peidiwch poeni felly, a dweud, ‘Beth wnawn ni fwyta?’ neu ‘Beth wnawn ni yfed?’ neu ‘Beth wisgwn ni?’

32. Y paganiaid sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi.

33. Gwnewch yn siŵr mai'r flaenoriaeth i chi ydy ymostwng i'w deyrnasiad e a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg, ac wedyn cewch y pethau eraill yma i gyd.

34. Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi'r bont honno pan ddaw. Mae'n well wynebu problemau un dydd ar y tro.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 6