Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 6:2-17 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Felly, pan fyddi'n rhoi arian i'r tlodion, paid trefnu ffanffer er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod am y peth. Dyna mae'r rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd yn ei wneud yn y synagogau ac ar y strydoedd. Maen nhw eisiau i bobl eraill eu canmol nhw. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!

3. Pan fyddi di'n rhoi arian i'r tlodion, paid gadael i'r llaw chwith wybod beth mae'r llaw dde yn ei wneud.

4. Dylai pob rhodd fod yn gyfrinach. Bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.

5. “A pheidiwch gweddïo fel y rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Maen nhw wrth eu boddau pan mae pobl yn edrych arnyn nhw yn codi i weddïo yn y synagogau neu ar strydoedd prysur. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!

6. Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld e. Wedyn bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.

7. A phan fyddwch chi'n gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae'r paganiaid yn gwneud. Maen nhw'n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir.

8. Peidiwch chi â bod fel yna. Mae'ch Tad chi'n gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair.

9. “Dyma sut dylech chi weddïo:‘Ein Tad sydd yn y nefoedd,dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.

10. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu,ac i'r cwbl sy'n dda yn dy olwg diddigwydd yma ar y ddaear fel mae'n digwydd yn y nefoedd.

11. Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw am heddiw.

12. Maddau i ni am bob dyled i tiyn union fel dŷn ni'n maddaui'r rhai sydd mewn dyled i ni.

13. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi,ac achub ni o afael y drwg.’

14. “Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd.

15. Ond os na wnewch chi faddau i'r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau'ch pechodau chi.

16. “Pan fyddwch chi'n ymprydio, peidiwch gwneud i'ch hunain edrych yn drist er mwyn gwneud sioe; mae'r bobl sy'n gwneud hynny yn cuddio eu hwynebau er mwyn i bobl sylwi eu bod yn ymprydio. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!

17. Pan fyddi di'n ymprydio, rho olew ar dy ben, criba dy wallt a golcha dy wyneb.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 6