Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 6:13-23 beibl.net 2015 (BNET)

13. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi,ac achub ni o afael y drwg.’

14. “Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd.

15. Ond os na wnewch chi faddau i'r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau'ch pechodau chi.

16. “Pan fyddwch chi'n ymprydio, peidiwch gwneud i'ch hunain edrych yn drist er mwyn gwneud sioe; mae'r bobl sy'n gwneud hynny yn cuddio eu hwynebau er mwyn i bobl sylwi eu bod yn ymprydio. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw!

17. Pan fyddi di'n ymprydio, rho olew ar dy ben, criba dy wallt a golcha dy wyneb.

18. Wedyn fydd neb yn gallu gweld dy fod ti'n ymprydio. Dim ond dy Dad, sy'n anweledig, fydd yn gweld; a bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti.

19. “Peidiwch casglu trysorau i chi'ch hunain yn y byd yma. Mae gwyfyn a rhwd yn gallu eu difetha, ac mae lladron yn gallu dod â'u dwyn.

20. Casglwch drysorau i chi'ch hunain yn y nefoedd – all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim byd.

21. Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.

22. “Y llygad ydy lamp y corff. Felly, mae llygad iach (sef bod yn hael) yn gwneud dy gorff yn olau trwyddo.

23. Ond mae llygad sâl (sef bod yn hunanol) yn gwneud dy gorff yn dywyll trwyddo. Felly os ydy dy oleuni di yn dywyllwch, mae'n dywyll go iawn arnat ti!

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 6