Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 5:6-19 beibl.net 2015 (BNET)

6. Mae'r rhai sy'n llwgu a sychedu am gyfiawnder wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael eu bodloni'n llwyr.

7. Mae'r rhai sy'n dangos trugaredd wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael profi trugaredd eu hunain.

8. Mae'r rhai sydd â chalon bur wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael gweld Duw.

9. Mae'r rhai sy'n hyrwyddo heddwch wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd byddan nhw'n cael eu galw'n blant Duw.

10. Mae'r rhai sy'n dioddef erledigaeth am eu bod yn byw'n gyfiawn wedi eu bendithio'n fawr,oherwydd mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.

11. “Pan fydd pobl yn eich sarhau chi, a'ch erlid, ac yn dweud pethau drwg amdanoch chi am eich bod yn perthyn i mi, dych chi wedi'ch bendithio'n fawr!

12. Byddwch yn llawen! Mwynhewch er gwaetha'r cwbl, achos mae gan Dduw yn y nefoedd wobr fawr i chi. Cofiwch fod y proffwydi oedd yn byw ers talwm wedi cael eu herlid yn union yr un fath!

13. “Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae'r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Dydy e'n dda i ddim ond i'w daflu i ffwrdd a'i sathru dan draed.

14. “Chi ydy'r golau sydd yn y byd. Mae'n amhosib cuddio dinas sydd wedi ei hadeiladu ar ben bryn.

15. A does neb yn goleuo lamp i'w gosod o dan fowlen! Na, dych chi'n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ.

16. Dyna sut dylai'ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli'ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi'n eu gwneud.

17. “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod i gael gwared â Chyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi. Dim o gwbl! Dw i wedi dod i ddangos beth maen nhw'n ei olygu.

18. Credwch chi fi, fydd dim un llythyren na manylyn lleia o'r Gyfraith yn cael ei ddileu nes bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu. Rhaid i'r cwbl ddigwydd gyntaf.

19. Bydd pwy bynnag sy'n torri'r gorchymyn lleia, ac yn dysgu pobl eraill i wneud yr un peth, yn cael ei ystyried y lleia yn y deyrnas nefol. Ond bydd pwy bynnag sy'n byw yn ufudd i'r gorchmynion ac yn dysgu eraill i wneud hynny, yn cael ei ystyried y mwya yn y deyrnas nefol.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 5