Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 5:41-48 beibl.net 2015 (BNET)

41. Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy.

42. Rho i bwy bynnag sy'n gofyn i ti am rywbeth, a paid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti.

43. “Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’ – (ac ‘i gasáu dy elyn’).

44. Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid chi!

45. Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant i'ch Tad yn y nefoedd, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud – mae'n gwneud i'r haul dywynnu ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sydd ddim.

46. Pam dylech chi gael gwobr am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Onid ydy hyd yn oed y rhai sy'n casglu trethi i Rufain yn gwneud cymaint â hynny?

47. Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl dych chi'n eu cyfarch, beth dych chi'n ei wneud sy'n wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny!

48. Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel mae'ch Tad nefol yn berffaith.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 5