Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 5:33-47 beibl.net 2015 (BNET)

33. “Dych chi hefyd wedi clywed i hyn gael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid gwneud llw, ac wedyn ei dorri. Rhaid cadw pob llw wyt ti wedi ei wneud i'r Arglwydd.’

34. Ond dw i'n dweud wrthoch chi, Peidiwch tyngu llw o gwbl: ddim i'r nefoedd, am mai dyna orsedd Duw;

35. nac i'r ddaear, y stôl iddo orffwys ei draed arni; nac i Jerwsalem, am mai hi ydy dinas Duw, y Brenin Mawr.

36. Peidiwch tyngu llw hyd yn oed i'ch pen eich hun, oherwydd allwch chi ddim troi un blewyn yn ddu neu'n wyn.

37. Yn lle hynny, dwedwch y gwir bob amser – dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol sy'n gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny.

38. “Dych chi wedi clywed fod hyn yn cael ei ddweud, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’

39. Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Peidiwch ceisio talu'n ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo.

40. Ac os ydy rhywun am dy siwio a chymryd dy grys, rho dy gôt iddo hefyd.

41. Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy.

42. Rho i bwy bynnag sy'n gofyn i ti am rywbeth, a paid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti.

43. “Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’ – (ac ‘i gasáu dy elyn’).

44. Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid chi!

45. Wedyn byddwch yn dangos eich bod yn blant i'ch Tad yn y nefoedd, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud – mae'n gwneud i'r haul dywynnu ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn a'r rhai sydd ddim.

46. Pam dylech chi gael gwobr am garu'r bobl hynny sy'n eich caru chi? Onid ydy hyd yn oed y rhai sy'n casglu trethi i Rufain yn gwneud cymaint â hynny?

47. Ac os mai dim ond eich teip chi o bobl dych chi'n eu cyfarch, beth dych chi'n ei wneud sy'n wahanol? Mae hyd yn oed y paganiaid yn gwneud hynny!

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 5