Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 5:21-32 beibl.net 2015 (BNET)

21. “Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid llofruddio’ – (ac y bydd pawb sy'n llofruddio rhywun yn euog ac yn cael eu barnu).

22. Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod y sawl sy'n gwylltio gyda rhywun arall yn euog ac yn cael ei farnu. Os ydy rhywun yn sarhau ei gyfaill drwy ei alw'n idiot, mae'n atebol i'r Sanhedrin. Ond os bydd rhywun yn dweud ‘y diawl dwl’ wrth rywun arall, mae mewn perygl o losgi yn nhân uffern.

23. “Felly, os wyt ti wrth yr allor yn y deml yn addoli Duw, ac yn cofio yno fod gan rhywun gŵyn yn dy erbyn,

24. gad dy offrwm yno. Dos i wneud pethau'n iawn gyda nhw'n gyntaf; cei di gyflwyno dy offrwm i Dduw wedyn.

25. “Os bydd rhywun yn dy gyhuddo o rywbeth ac yn mynd â ti i'r llys, setla'r mater ar unwaith cyn cyrraedd y llys. Ydy'n well gen ti iddo fynd â ti o flaen y barnwr, ac i'r barnwr orchymyn i swyddog dy roi yn y carchar?

26. Cred di fi, chei di ddim dy ryddhau nes byddi wedi talu pob ceiniog.

27. “Dych chi wedi clywed beth oedd yn cael ei ddweud, ‘Paid godinebu’

28. Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod unrhyw ddyn sy'n llygadu gwraig a'i feddwl ar ryw eisoes wedi cyflawni godineb gyda hi.

29. Os ydy dy lygad orau yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti golli rhan fach o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.

30. Ac os ydy dy law gryfaf yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti golli rhan o dy gorff nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i uffern.

31. “Mae wedi cael ei ddweud, ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig roi tystysgrif ysgariad iddi.’

32. Ond dw i'n dweud wrthoch chi fod dyn sy'n ysgaru ei wraig am unrhyw reswm ond ei bod hi wedi bod yn anffyddlon iddo, yn gwneud iddi hi odinebu. Hefyd mae dyn sy'n priodi gwraig sydd wedi cael ysgariad yn godinebu.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 5