14. “Chi ydy'r golau sydd yn y byd. Mae'n amhosib cuddio dinas sydd wedi ei hadeiladu ar ben bryn.
15. A does neb yn goleuo lamp i'w gosod o dan fowlen! Na, dych chi'n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ.
16. Dyna sut dylai'ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli'ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi'n eu gwneud.
17. “Peidiwch meddwl fy mod i wedi dod i gael gwared â Chyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi. Dim o gwbl! Dw i wedi dod i ddangos beth maen nhw'n ei olygu.
18. Credwch chi fi, fydd dim un llythyren na manylyn lleia o'r Gyfraith yn cael ei ddileu nes bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu. Rhaid i'r cwbl ddigwydd gyntaf.
19. Bydd pwy bynnag sy'n torri'r gorchymyn lleia, ac yn dysgu pobl eraill i wneud yr un peth, yn cael ei ystyried y lleia yn y deyrnas nefol. Ond bydd pwy bynnag sy'n byw yn ufudd i'r gorchmynion ac yn dysgu eraill i wneud hynny, yn cael ei ystyried y mwya yn y deyrnas nefol.
20. Dw i'n dweud hyn – os fyddwch chi ddim yn byw'n fwy cyfiawn na'r Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau.