Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 28:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. Yn sydyn roedd daeargryn mawr. Dyma angel yr Arglwydd yn dod i lawr o'r nefoedd a rholio'r garreg oddi ar geg y bedd ac eistedd arni.

3. Roedd wyneb yr angel yn disgleirio'n llachar fel mellten, a'i ddillad yn wyn fel eira.

4. Roedd y milwyr yn crynu gan ofn a dyma nhw'n llewygu.

5. Yna dyma'r angel yn dweud wrth y gwragedd, “Peidiwch bod ag ofn. Dw i'n gwybod eich bod chi'n edrych am Iesu, yr un gafodd ei groeshoelio.

6. Dydy e ddim yma; mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dyna'n union beth ddwedodd fyddai'n digwydd. Dewch yma i weld lle bu'n gorwedd.

7. Yna ewch ar frys a dweud hyn wrth ei ddisgyblion: ‘Mae Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac mae'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno.’ Edrychwch, fi sydd wedi dweud wrthoch chi.”

8. Felly dyma'r gwragedd yn rhedeg ar frys o'r bedd i ddweud wrth y disgyblion. Roedden nhw wedi dychryn, ac eto roedden nhw'n teimlo rhyw wefr.

9. Yna'n sydyn dyma Iesu'n eu cyfarfod nhw. “Helo,” meddai. Dyma nhw'n rhedeg ato ac yn gafael yn ei draed a'i addoli.

10. “Peidiwch bod ag ofn,” meddai Iesu wrthyn nhw, “Ewch i ddweud wrth fy mrodyr i am fynd i Galilea; byddan nhw'n cael fy ngweld i yno.”

11. Tra roedd y gwragedd ar eu ffordd, dyma rhai o'r milwyr yn mynd i'r ddinas i ddweud wrth y prif offeiriaid am bopeth oedd wedi digwydd.

12. Yna aeth y prif offeiriaid i gyfarfod gyda'r arweinwyr eraill i drafod beth i'w wneud. Dyma nhw'n penderfynu talu swm mawr o arian i'r milwyr

13. i ddweud celwydd. “Dyma beth dych chi i'w ddweud: medden nhw, ‘Daeth ei ddisgyblion yn ystod y nos a dwyn y corff tra oedden ni'n cysgu.’

14. Peidiwch poeni os bydd y llywodraethwr yn clywed y stori, deliwn ni gyda hynny a gwneud yn siŵr na chewch chi'ch cosbi.”

15. Felly dyma'r milwyr yn cymryd yr arian ac yn gwneud beth ddwedwyd wrthyn nhw. Dyma'r stori mae'r Iddewon i gyd yn dal i'w defnyddio heddiw!

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 28