Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 27:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn gynnar iawn yn y bore, dyma'r holl brif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill yn penderfynu fod rhaid i Iesu gael ei ddedfrydu i farwolaeth.

2. Felly, dyma nhw'n ei rwymo a'i drosglwyddo i Peilat, y llywodraethwr.

3. Pan sylweddolodd Jwdas, y bradwr, fod Iesu'n mynd i gael ei ddienyddio, roedd yn edifar am beth wnaeth e. Aeth â'r tri deg darn arian yn ôl i'r prif offeiriaid a'r arweinwyr.

4. “Dw i wedi pechu;” meddai, “dw i wedi bradychu dyn cwbl ddieuog.”“Does dim ots gynnon ni.” medden nhw, “Dy gyfrifoldeb di ydy hynny.”

5. Felly dyma Jwdas yn taflu'r arian ar lawr y deml a mynd allan a chrogi ei hun.

6. Dyma'r prif offeiriaid yn codi'r darnau arian. “Allwn ni ddim rhoi'r arian yma yn nhrysorfa'r deml. Mae yn erbyn y Gyfraith i dderbyn arian gafodd ei dalu am ladd rhywun.”

7. Felly dyma nhw'n cytuno i ddefnyddio'r arian i brynu Maes y Crochenydd fel mynwent i gladdu pobl oedd ddim yn Iddewon.

8. A dyna pam mai ‛Maes y Gwaed‛ ydy'r enw arno hyd heddiw.

9. A dyna sut daeth geiriau'r proffwyd Jeremeia yn wir: “Dyma nhw'n cymryd y tri deg darn arian (dyna oedd ei werth yng ngolwg pobl Israel),

10. a phrynu maes y crochenydd, fel yr oedd yr Arglwydd wedi dweud.”

11. Yn y cyfamser, roedd Iesu'n sefyll ei brawf o flaen y llywodraethwr Rhufeinig. Dyma Peilat yn dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”“Ti sy'n dweud,” atebodd Iesu.

12. Ond pan oedd y prif offeiriaid a'r arweinwyr yn cyflwyno eu hachos yn ei erbyn, roedd Iesu'n gwrthod ateb.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 27