Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 26:60-75 beibl.net 2015 (BNET)

60. Ond er i lawer o bobl ddod ymlaen a dweud celwydd amdano, chawson nhw ddim tystiolaeth allen nhw ei ddefnyddio yn ei erbyn. Yn y diwedd dyma ddau yn dod ymlaen

61. a dweud, “Dwedodd y dyn yma, ‘Galla i ddinistrio teml Dduw a'i hadeiladu eto o fewn tri diwrnod.’”

62. Felly dyma'r archoffeiriad yn codi ar ei draed a dweud wrth Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?”

63. Ond ddwedodd Iesu ddim.Yna dyma'r archoffeiriad yn dweud wrtho, “Dw i'n dy orchymyn di yn enw'r Duw byw i'n hateb ni! Ai ti ydy'r Meseia, mab Duw?”

64. “Ie,” meddai Iesu, “fel rwyt ti'n dweud. Ond dw i'n dweud wrthoch chi i gyd: Rhyw ddydd byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.”

65. Wrth glywed beth ddwedodd Iesu, dyma'r archoffeiriad yn rhwygo ei ddillad. “Cabledd!” meddai, “Pam mae angen tystion arnon ni?! Dych chi i gyd newydd ei glywed yn cablu.

66. Beth ydy'ch dyfarniad chi?”Dyma nhw'n ateb, “Rhaid iddo farw!”

67. Yna dyma nhw'n poeri yn ei wyneb ac yn ei ddyrnu. Roedd rhai yn ei daro ar draws ei wyneb

68. ac yna'n dweud, “Tyrd! Proffwyda i ni, Feseia! Pwy wnaeth dy daro di y tro yna?”

69. Yn y cyfamser, roedd Pedr yn eistedd allan yn yr iard, a dyma un o'r morynion yn dod ato a dweud, “Roeddet ti'n un o'r rhai oedd gyda'r Galilead yna, Iesu!”

70. Ond gwadu'r peth wnaeth Pedr o flaen pawb. “Does gen i ddim syniad am beth wyt ti'n sôn,” meddai.

71. Aeth allan at y fynedfa i'r iard, a dyma forwyn arall yn ei weld yno, a dweud wrth y bobl o'i chwmpas, “Roedd hwn gyda Iesu o Nasareth.”

72. Ond gwadu'r peth wnaeth Pedr eto gan daeru: “Dw i ddim yn nabod y dyn!”

73. Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn mynd at Pedr a dweud, “Ti'n un ohonyn nhw'n bendant! Mae'n amlwg oddi wrth dy acen di.”

74. Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn!” meddai.A'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu.

75. Yna cofiodd Pedr beth ddwedodd Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod di'n fy nabod i dair gwaith cyn i'r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crïo.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 26