Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 26:31-40 beibl.net 2015 (BNET)

31. “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i heno” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.’

32. Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw, af i o'ch blaen chi i Galilea.”

33. Dyma Pedr yn dweud yn bendant, “Wna i byth droi cefn arnat ti, hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!”

34. “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i.”

35. Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda thi!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth.

36. Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd draw acw i weddïo.”

37. Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu.

38. “Mae'r tristwch dw i'n ei deimlo yn ddigon i'm lladd i,” meddai wrthyn nhw, “Arhoswch yma i wylio gyda mi.”

39. Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar ei wyneb ar lawr a gweddïo, “Fy Nhad, gad i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny'n bosib. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”

40. Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw'n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Felly, allech chi ddim cadw golwg gyda mi am un awr fechan?

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 26