Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 26:27-37 beibl.net 2015 (BNET)

27. Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a'i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi.

28. Dyma fy ngwaed, sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl, i faddau eu pechodau nhw.

29. Wir i chi – fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw'r dydd pan fydda i'n ei yfed o'r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.”

30. Wedyn, ar ôl canu emyn, dyma nhw'n mynd allan i Fynydd yr Olewydd.

31. “Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i heno” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.’

32. Ond ar ôl i mi ddod yn ôl yn fyw, af i o'ch blaen chi i Galilea.”

33. Dyma Pedr yn dweud yn bendant, “Wna i byth droi cefn arnat ti, hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!”

34. “Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i.”

35. Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda thi!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth.

36. Dyma Iesu'n mynd gyda'i ddisgyblion i le o'r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i'n mynd draw acw i weddïo.”

37. Aeth â Pedr a dau fab Sebedeus gydag e, a dechreuodd deimlo tristwch ofnadwy a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 26