Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 26:2-17 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Fel dych chi'n gwybod, mae'n Ŵyl y Pasg nos fory. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i'm croeshoelio.”

3. Yr un adeg, roedd y prif offeiriaid ac arweinwyr Iddewig eraill yn cyfarfod ym mhalas Caiaffas yr archoffeiriad,

4. i drafod sut allen nhw arestio Iesu a'i ladd.

5. “Ond dim yn ystod yr Ŵyl,” medden nhw, “neu bydd reiat.”

6. Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‛Simon y gwahanglwyf‛.

7. Roedd yno'n bwyta pan ddaeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr drud, a thywallt y persawr ar ei ben.

8. Roedd y disgyblion yn wyllt pan welon nhw hi'n gwneud hyn. “Am wastraff!” medden nhw,

9. “Gallai rhywun fod wedi gwerthu'r persawr yna am arian mawr, a rhoi'r cwbl i bobl dlawd.”

10. Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei ddweud, ac meddai wrthyn nhw, “Gadewch lonydd i'r wraig! Mae hi wedi gwneud peth hyfryd.

11. Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser.

12. Wrth dywallt y persawr yma arna i mae hi wedi paratoi fy nghorff ar gyfer ei gladdu.

13. Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.”

14. Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, un o'r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid

15. a gofyn iddyn nhw, “Faint wnewch chi dalu i mi os wna i ei fradychu e?” A dyma nhw'n cytuno i roi tri deg darn arian iddo.

16. O hynny ymlaen roedd Jwdas yn edrych am ei gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw.

17. Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, gofynnodd y disgyblion i Iesu, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? – i ni fynd i'w baratoi.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 26