Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 26:18-27 beibl.net 2015 (BNET)

18. “Ewch i'r ddinas at hwn a hwn,” meddai. “Dwedwch wrtho: ‘Mae'r athro'n dweud fod yr amser wedi dod. Mae am ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion yn dy dŷ di.’”

19. Felly dyma'r disgyblion yn gwneud yn union fel roedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw, ac yn paratoi swper y Pasg yno.

20. Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd gyda'r deuddeg disgybl.

21. Tra roedden nhw'n bwyta, meddai wrthyn nhw, “Wir i chi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.”

22. Roedden nhw'n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall, “Meistr, dim fi ydy'r un, nage?”

23. Atebodd Iesu, “Bydd un ohonoch chi yn fy mradychu i – un ohonoch chi sydd yma, ac wedi trochi ei fwyd yn y ddysgl saws gyda mi.

24. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!”

25. Wedyn dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud, “Rabbi, dim fi ydy'r un, nage?”“Ti sydd wedi dweud,” atebodd Iesu.

26. Tra oedden nhw'n bwyta, dyma Iesu'n cymryd torth, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Cymerwch y bara yma, a'i fwyta,” meddai. “Dyma fy nghorff i.”

27. Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a'i basio iddyn nhw, a dweud, “Yfwch o hwn, bob un ohonoch chi.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 26