Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 23:6-25 beibl.net 2015 (BNET)

6. Maen nhw wrth eu bodd yn cael y seddi gorau mewn gwleddoedd a'r seddi pwysica yn y synagogau,

7. a chael pobl yn symud o'u ffordd a'u cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad, a'u galw yn ‛Rabbi‛.

8. “Peidiwch chi â gadael i neb eich galw'n ‛Rabbi‛. Dim ond un athro sydd gynnoch chi, a dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr a chwiorydd i'ch gilydd.

9. A peidiwch rhoi'r teitl anrhydedd ‛Y tad‛ i neb. Duw yn y nefoedd ydy'ch Tad chi.

10. A pheidiwch â gadael i neb eich galw'n ‛meistr‛ chwaith. Un meistr sydd gynnoch chi, a'r Meseia ydy hwnnw.

11. Rhaid i'r arweinydd fod yn was.

12. Bydd pwy bynnag sy'n gwthio ei hun i'r top yn cael ei dynnu i lawr, a phwy bynnag sy'n gwasanaethu eraill yn cael ei godi i'r top.

13. “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n cau drws yn wyneb pobl, a'u rhwystro rhag dod dan deyrnasiad yr Un nefol. Dych chi'ch hunain ddim yn mynd i mewn, nac yn fodlon gadael i unrhyw un sydd am fynd i mewn gael mynediad.

15. “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n barod i deithio dros fôr a thir i gael un person i gredu yr un fath â chi. Ond yna dych chi'n ei droi'n blentyn uffern – ddwywaith gwaeth na chi'ch hunain!

16. “Gwae chi! Arweinwyr dall ydych chi! Er enghraifft, dych chi'n dweud: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi trysor y deml, mae wedi ei rwymo gan ei lw.’

17. Y ffyliaid dall! Pa un ydy'r pwysica – y trysor, neu'r deml sy'n gwneud y trysor yn gysegredig?

18. “Dyma enghraifft arall: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi'r offrwm ar yr allor, mae wedi ei rwymo gan ei lw.’

19. Dych chi mor ddall! Pa un ydy'r pwysica – yr offrwm, neu'r allor sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig?

20. Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, mae hynny'n cynnwys popeth sydd arni hefyd!

21. Ac os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, mae hefyd yn cyfeirio at Dduw, sy'n bresennol yn y deml.

22. Ac os ydy rhywun yn enwi'r nefoedd wrth dyngu llw, mae'n cyfeirio at orsedd Duw, ac at Dduw ei hun, sy'n eistedd arni.

23. “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw – hyd yn oed perlysiau fel mintys, anis a chwmin! Ond dych chi'n talu dim sylw i faterion pwysica'r Gyfraith – byw'n gyfiawn, bod yn drugarog ac yn ffyddlon i Dduw. Dylech chi wneud y pethau pwysica yma heb ddiystyru'r pethau eraill.

24. Arweinwyr dall ydych chi! Dych chi'n hidlo dŵr rhag i chi lyncu gwybedyn, ond yna'n llyncu camel!

25. “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n glanhau'r tu allan i'r gwpan neu'r ddysgl, ond cawsoch chi'r bwyd a'r diod oedd ynddyn nhw trwy drais a hunanoldeb.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 23