Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 23:30-39 beibl.net 2015 (BNET)

30. Dych chi'n dweud, ‘Petaen ni'n byw bryd hynny, fydden ni ddim wedi lladd y proffwydi, fel gwnaeth ein cyndeidiau.’

31. Felly! Dych chi'n cydnabod eich bod yn ddisgynyddion i'r rhai lofruddiodd y proffwydi!

32. Iawn! Cariwch ymlaen! Waeth i chi orffen beth ddechreuodd eich cyndeidiau!

33. “Dych chi fel nythaid o nadroedd gwenwynig! Sut allwch chi osgoi cael eich dedfrydu i uffern!?

34. Bydda i'n anfon proffwydi atoch chi, a phobl ddoeth ac athrawon. Byddwch yn lladd rhai ohonyn nhw a'u croeshoelio; byddwch yn gwneud i eraill ddioddef drwy eu chwipio yn eich synagogau. Byddwch yn eu herlid o un lle i'r llall.

35. Felly, chi fydd yn gyfrifol am yr holl bobl ddiniwed sydd wedi eu lladd ar y ddaear, o Abel (wnaeth ddim o'i le), hyd Sechareia fab Beracheia, gafodd ei lofruddio gynnoch chi yn y deml rhwng y cysegr a'r allor.

36. Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn cael ei chosbi am hyn i gyd.

37. “O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi a llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd – ond doedd gen ti ddim diddordeb!

38. Edrych! Mae Duw wedi gadael dy deml – mae'n wag!

39. Dw i'n dweud hyn – fyddi di ddim yn fy ngweld i eto nes byddi'n dweud, ‘Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!’”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 23