Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 23:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dyma Iesu'n dweud wrth y dyrfa ac wrth ei ddisgyblion:

2. “Mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid â'r hawl i ddehongli Cyfraith Moses,

3. ac wrth gwrs ‘Dylech chi wrando arnyn nhw a gwneud popeth maen nhw'n ei ddweud.’ Ond peidiwch dilyn eu hesiampl nhw – dŷn nhw ddim yn byw beth maen nhw'n ei bregethu.

4. Maen nhw'n gosod beichiau trwm ar ysgwyddau pobl, rheolau crefyddol sy'n eu llethu nhw, ond wnân nhw ddim codi bys bach i helpu pobl i gario'r baich.

5. “Maen nhw'n gwneud popeth er mwyn dangos eu hunain. Maen nhw'n gwneud yn siŵr fod y blychau gweddi ar eu breichiau a'u talcennau yn amlwg, a'r taselau hirion ar eu clogyn yn dangos mor dduwiol ydyn nhw.

6. Maen nhw wrth eu bodd yn cael y seddi gorau mewn gwleddoedd a'r seddi pwysica yn y synagogau,

7. a chael pobl yn symud o'u ffordd a'u cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad, a'u galw yn ‛Rabbi‛.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 23