Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 21:8-19 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dechreuodd y dyrfa daflu eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu dorri dail o'r coed a'u lledu ar y ffordd.

9. Roedd y dyrfa y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi,“Clod i Fab Dafydd!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!” “Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”

10. Roedd y ddinas gyfan mewn cynnwrf pan aeth Iesu i mewn i Jerwsalem. “Pwy ydy hwn?” meddai rhai.

11. Ac roedd y dyrfa o'i gwmpas yn ateb, “Iesu, y proffwyd o Nasareth yn Galilea.”

12. Aeth Iesu i mewn i gwrt y deml a gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.

13. Yna dwedodd, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi.’ Ond dych chi'n ei droi yn ‘guddfan i ladron’!”

14. Roedd pobl ddall a rhai cloff yn dod ato i'r deml, ac roedd yn eu hiacháu nhw.

15. Ond roedd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi gwylltio'n lân wrth weld y gwyrthiau rhyfeddol roedd yn eu gwneud, a'r plant yn gweiddi yn y deml, “Clod i Fab Dafydd!”

16. “Wyt ti ddim yn clywed beth mae'r plant yma'n ei ddweud?” medden nhw wrtho.“Ydw,” atebodd Iesu. “Ydych chi erioed wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd, “‘Rwyt wedi dysgu plant a babanod i dy foli di’?”

17. Dyma fe'n eu gadael nhw, a mynd allan i Bethania, lle arhosodd dros nos.

18. Yn gynnar y bore wedyn roedd ar ei ffordd yn ôl i'r ddinas, ac roedd e eisiau bwyd.

19. Gwelodd goeden ffigys ar ochr y ffordd, ac aeth draw ati ond doedd dim byd ond dail yn tyfu arni. Yna dwedodd, “Fydd dim ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto!”, a dyma'r goeden yn gwywo.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 21