7. Pan ddaethon nhw â'r asen a'i hebol yn ôl, dyma nhw'n taflu eu cotiau arnyn nhw, a dyma Iesu'n eistedd ar gefn yr ebol.
8. Dechreuodd y dyrfa daflu eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu dorri dail o'r coed a'u lledu ar y ffordd.
9. Roedd y dyrfa y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi,“Clod i Fab Dafydd!” “Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi ei fendithio'n fawr!” “Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”
10. Roedd y ddinas gyfan mewn cynnwrf pan aeth Iesu i mewn i Jerwsalem. “Pwy ydy hwn?” meddai rhai.
11. Ac roedd y dyrfa o'i gwmpas yn ateb, “Iesu, y proffwyd o Nasareth yn Galilea.”
12. Aeth Iesu i mewn i gwrt y deml a gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod.