19. Gwelodd goeden ffigys ar ochr y ffordd, ac aeth draw ati ond doedd dim byd ond dail yn tyfu arni. Yna dwedodd, “Fydd dim ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto!”, a dyma'r goeden yn gwywo.
20. Pan welodd y disgyblion hyn roedden nhw wedi eu syfrdanu. “Sut wnaeth y goeden wywo mor sydyn?” medden nhw.
21. “Credwch chi fi,” meddai Iesu, “dim ond i chi gredu a pheidio amau, gallech chi wneud mwy na beth gafodd ei wneud i'r goeden ffigys. Gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr,’ a byddai'n digwydd.
22. Dim ond i chi gredu, cewch beth bynnag dych chi'n gofyn amdano wrth weddïo.”
23. Dyma Iesu'n mynd i gwrt y deml a dechrau dysgu'r bobl yno. A dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, a gofyn iddo “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?”
24. Atebodd Iesu nhw, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi, ateba i'ch cwestiwn chi.
25. Roedd Ioan yn bedyddio. Ai Duw anfonodd e neu ddim?”Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn i ni, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’
26. Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’ … rhag ofn i'r dyrfa ymosod arnon ni. Maen nhw i gyd yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.”
27. Felly dyma nhw'n gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw.“Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.
28. “Beth ydych chi'n feddwl? Roedd rhyw ddyn a dau o blant ganddo. Meddai wrth yr hynaf, ‘Dos i weithio yn y winllan heddiw.’
29. “‘Na wna i’ meddai hwnnw, ond yn nes ymlaen newidiodd ei feddwl a mynd.
30. “Dyma'r tad yn mynd at y mab arall a dweud yr un peth. Atebodd hwnnw, ‘Siŵr iawn, dad,’ ond aeth e ddim.