Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 18:5-18 beibl.net 2015 (BNET)

5. “Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi.

6. Ond pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well i'r person hwnnw gael maen melin wedi ei rwymo am ei wddf, ac iddo foddi yn eigion y môr.

7. “Gwae'r sawl sy'n achosi i bobl eraill bechu! Mae temtasiynau yn siŵr o ddod, ond gwae'r sawl fydd yn gwneud y temtio!

8. Os ydy dy law neu dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu neu'n gloff, na bod â dwy law a dwy droed a chael dy daflu i'r tân tragwyddol!

9. Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd gyda dim ond un llygad na bod dwy gen ti a chael dy daflu i dân uffern.

10. “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn edrych i lawr ar un o'r rhai bach yma. Wir i chi, mae'r angylion sy'n eu gwarchod nhw yn gallu mynd i bresenoldeb fy Nhad yn y nefoedd unrhyw bryd.

12. “Beth ydych chi'n feddwl? Meddyliwch am ddyn a chant o ddefaid ganddo, a bod un ohonyn nhw'n crwydro i ffwrdd. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y bryniau ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll?

13. Credwch chi fi, os daw o hyd iddi, mae'r un ddafad yna yn rhoi mwy o lawenydd iddo na'r naw deg naw wnaeth ddim mynd ar goll!

14. Yr un fath, dydy'ch Tad yn y nefoedd ddim am i unrhyw un o'r rhai bach yma gael eu colli.

15. “Os ydy crediniwr arall yn pechu yn dy erbyn, dos i siarad gydag e am y peth wyneb yn wyneb – paid dweud wrth neb arall. Os bydd yn gwrando arnat byddi wedi adfer y berthynas rhyngoch.

16. Ond os fydd e ddim yn gwrando arnat, dos ag un neu ddau o bobl gyda ti, achos ‘rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.’

17. Os bydd yn dal i wrthod gwrando, dos â'r mater o flaen yr eglwys. Ac os bydd hyd yn oed yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, dylid ei drin fel pagan neu'r rhai sy'n casglu trethi i Rufain!

18. “Credwch chi fi, bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu rhwystro ar y ddaear wedi eu rhwystro yn y nefoedd, a bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu caniatáu ar y ddaear wedi eu caniatáu yn y nefoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 18